SL(6)125 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 26) 2021

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau’n diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (“y prif Reoliadau”). Bydd y Rheoliadau hyn, o ddechrau 31 Rhagfyr 2021 yn:

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y 4 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn y torrir y rheol 21 diwrnod (h.y. y rheol y dylai 21 diwrnod fod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a'r esboniad am dorri’r rheol a ddarparwyd gan Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 30 Rhagfyr 2021. Yn benodol, rydym yn nodi'r hyn y mae'r llythyr yn ei ddweud ynghylch torri'r rheol:

“Mae peidio â chydymffurfio â’r confensiwn 21 diwrnod yn caniatáu i’r Rheoliadau ddod i rym cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau bod unigolion yn cael cais i hunanynysu yn unol â’r cyngor ar iechyd y cyhoedd ac am gyfnod nad yw’n hirach na’r hyn sydd ei angen. Bydd hynny’n helpu i liniaru effeithiau absenoldebau estynedig staff ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol yng Nghymru; ac yn cysoni’n sefyllfa ni yng Nghymru â’r sefyllfa a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU er mwyn lleihau unrhyw drafferthion neu ddryswch ar y ffin.”

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn ar dudalen 2 y Memorandwm Esboniadol:

“Er bod y prif Reoliadau, fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, yn cyffwrdd â hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, mae’r Llywodraeth o’r farn bod modd eu cyfiawnhau er mwyn atal lledaenu clefydau heintus a/neu fod hawl i wneud yr ymyriad ar y sail ei fod yn ceisio cyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd, a’u bod yn gymesur.

Mae Erthygl 5 (yr hawl i ryddid), Erthygl 8 (yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol), Erthygl 9 (rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd), Erthygl 11 (rhyddid i ymgynnull a chymdeithasu) ac Erthygl 1 o’r Protocol Cyntaf (diogelu eiddo) yn cael eu cyffwrdd gan y prif Reoliadau.

Mae pob un o’r rhain yn hawliau amodol, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru ymyrryd ag arfer yr hawliau os oes angen gwneud hynny mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch y cyhoedd neu er mwyn diogelu iechyd. Rhaid cyfiawnhau’r holl gyfyngiadau a gofynion o’r fath ar y sail mai eu bwriad yw cyflawni nod cyfreithlon, sef diogelu iechyd y cyhoedd, a’u bod yn gymesur.  Hefyd, mae angen cydbwyso unrhyw ymyrraeth â’r hawliau hyn â rhwymedigaethau cadarnhaol y Wladwriaeth o dan Erthygl 2 (yr hawl i fywyd). Mae addasu’r cyfyngiadau a’r gofynion o dan y prif Reoliadau drwy’r Rheoliadau hyn yn ymateb cymesur i ledaeniad y coronafeirws. Mae'n cydbwyso'r angen i gynnal ymateb priodol i'r bygythiad a berir gan y coronafeirws yn erbyn hawliau unigolion a busnesau, mewn modd sy'n parhau'n gymesur â'r angen i leihau cyfradd trosglwyddo'r coronafeirws, gan ystyried y dystiolaeth wyddonol.”

 

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“O ystyried yr angen am ymateb iechyd cyhoeddus brys, nid oes ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.”

4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn darparu y paratowyd asesiad effaith cryno mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn, fodd bynnag oherwydd yr angen i’w rhoi ar waith ar fyrder i ymdrin â bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd nid yw wedi’i gyhoeddi eto - caiff ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

5 Ionawr 2022